Hafan

 

Croeso i safwe Plant y Brics, Tikathali, Nepal.

Sefydlwyd BCS ym mis Tachwedd 2001 cynnyrch meddwl David Phoenix o Ogledd Cymru ar ôl iddo ymweld â ffrind o Kathmandu a bod yn llygad - dyst i gannoedd o blant wrth odre’r Himalayas yn treulio 8 mis o bob blwyddyn yn y caeau brics yn Nyffryn Kathmandu, yn cynhyrchu brics gyda’u dwylo. Mae’r plant yn anadlu mwg a llwch brics wrth weithio ochr yn ochr a’u rhieni anllythrennog sy’n rhy dlawd i roi addysg iddyn nhw hyd yn oed petai ysgol yn yr ardal.

Ym mis Hydref 2001 gwnaethpwyd cytundeb rhwng Clwb Rotari Wrecsam Ial  a Chlwb Rotari Yala ( yn Patan, Nepal), Cymdeithas y Groes Goch Kathmandu a’r Gymdeithas Ddatblygu Gymdeithasol i logi adeilad ar lês, a chyda chymorth y rhieni trawsffurfiwyd yr ysgubor i bedair stafell ddosbarth , ardal chwarae dan do a swyddfa.

I ddechrau sefydlwyd yr ysgol ar gyfer 89 o blant ond erbyn Mawrth 2005 roedd y nifer wedi cynyddu i 250 gyda dosbarth ychwanegol i blant o’r pentref yn ogystal â dau ddosbarth llythrennedd, dosbarth gwnïo i 28 o wragedd a dosbarth addysg iechyd ar gyfer oedolion. Bellach mae`r ysgol ag agos i 200 oblant ar ddwy safle.


Digwyddiadau i ddod

Gwyliwch y gofod hyn am wybodaeth ynglyn a’r noson ‘Rendezvous’ yng Ngholeg Ial, Wrecsam i ddiolch i’n cefnogwyr.

Dyddiad cyfarfod nesaf o’r ymddiriedolwyr- Dydd Llun 13eg Gorffenaf 2009

Cangen newydd o’r Ysgol yn agor

Mae’r cynllun o agor cangen newydd o Ysgol Pant y Brics ar safle ffatri brics RK, rhyw filltir o’r ysgol wreiddiol, wedi ei wireddu.

Mae perchennog y ffatri, Mr Ram Kazi, wedi cytuno i’r bwriad o sefydlu dosbarthiadau i blant gweithwyr ei ffatri frics. Wedi peth aros, yn rhannol oherwydd peth anesmwythder politicaidd o fewn y wlad, dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym Mis Ionawr 2008 a’i gwblhau ym Mis Mawrth ac mi ‘roedd Mr. Ram Kazi yn bresennol yn y bendithio swyddogol a’r seremoni agoriadol ar 5ed Ebrill, 2008.

Mae’r elusen bellach yn talu cyflogau dwy athrawes ac wedi sicrhau fod yr adnoddau angenrheidiol ar gael. Y ‘New Help Association’ sydd yn goruchwylio y fenter newydd gyffrous hon ac wedi cynnig hyfforddiant mewn swydd i’r staff. Mae’r gangen newydd o YPB yn caniatau i ni addysgu mwy fyth o blant gweithwyr yn Nyffryn Kathmandu. Ein gobaith yw y bydd y datblygiad yn annog mwy o berchnogion y ffatrioedd brics i wneud darpariaeth debyg i’r teuluoedd y maent hwy yn eu cyflogi.

Cafwyd trafodaethau eisoes efo perchnogion dwy ffatri ynglyn a sefydlu un cangen arall. Gwyliwch y gofod yma!